Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

8 Mai 2017

SL(5)088 – Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn llywodraethu atebolrwydd dros fenthyciad myfyrwyr sydd gan fyfyrwyr sy’n cael benthyciadau at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â blwyddyn academaidd 2017/2018.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dileu hyd at £1,500 o atebolrwydd pob benthyciwr dros fenthyciad at gostau byw o dan amgylchiadau penodol, gydag effaith o’r diwrnod ar ôl y dyddiad yr ystyrir bod ei ad-daliad cyntaf ar ei fenthyciad wedi dod i law.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998

Fe’u gwnaed ar: 28 Mawrth 2017

Fe'u gosodwyd ar:30 Mawrth 2017

Yn dod i rym ar: 1 Awst 2017

SL(5)089 – Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu hawdurdodi i adennill costau a ysgwyddwyd ganddynt mewn cysylltiad ag—

(a)    ymchwiliadau y mae gan Weinidogion Cymru hawl i adennill eu costau mewn perthynas â hwy o dan neu yn rhinwedd adran 250(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (gan gynnwys ymchwiliadau gorchymyn prynu gorfodol y cymhwysir yr adran honno iddynt gan adran 5 o Ddeddf Caffael Tir 1981) neu adran 69(5) o Ddeddf Draenio Tir 1991 (“ymchwiliadau lleol”); a

(b)    gweithdrefnau cymwys fel y’u diffinnir gan adran 303A(1A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (archwiliadau annibynnol a gynhelir mewn perthynas â chynlluniau datblygu lleol ac ymchwiliadau mewn perthynas ag ystyried gwrthwynebiadau i gynlluniau parth cynllunio syml) (“gweithdrefnau cymwys”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r swm dyddiol safonol y caiff Gweinidogion Cymru ei adennill am bob diwrnod, neu ran o ddiwrnod—

(a)    y bydd ymchwiliad lleol yn eistedd neu y bydd y person a benodir i gynnal yr ymchwiliad lleol fel arall yn gwneud gwaith sy’n gysylltiedig â’r ymchwiliad hwnnw; neu

(b)    y bydd y person a benodir i gynnal gweithdrefn gymwys wrthi’n cynnal y weithdrefn gymwys, neu fel arall yn gwneud gwaith sy’n gysylltiedig â’r weithdrefn honno.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Tai a Chynllunio 1986

Fe’u gwnaed ar: 24 Mawrth 2017

Fe'u gosodwyd ar:31 Mawrth 2017

Yn dod i rym ar: 5 Mai 2017

SL(5)091 – Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012 (“Rheoliadau 2012”).

Y prif newidiadau yw—

(1)  diwygiadau i’r weithdrefn mewn perthynas â cheisiadau a gyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 12 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (“y Ddeddf”) ac o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adrannau 19 a 74(3) o’r Ddeddf, gan gynnwys darpariaeth i geisydd gyflwyno datganiad achos llawn o fewn cyfnod penodedig os yw’r ceisydd yn dewis gwneud hynny (rheoliad 4 sy’n mewnosod rheoliad 11A newydd yn Rheoliadau 2012);

(2)  diwygiadau i’r weithdrefn mewn perthynas ag apelau o dan adran 20 o’r Ddeddf i’w gwneud yn ofynnol—

(a)    bod hysbysiad o apêl yn dod gyda datganiad achos llawn; a

(b)    bod yr apelydd yn anfon copi o’r datganiad achos llawn i’r awdurdod cynllunio lleol (rheoliad 5 sy’n diwygio rheoliad 12 o Reoliadau 2012);

(3)  darpariaeth o dan adran 21(4A) a (4B) o’r Ddeddf (a fewnosodwyd gan adran 47(3) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015) i—

(a)    rhagnodi amgylchiad o dan adran 21(4A) lle caniateir amrywio cais ar ôl i hysbysiad o apêl gael ei gyflwyno; a

(b)    darparu i gais a amrywir yn y fath fodd fod yn ddarostyngedig i’r fath ymgynghoriad pellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol (rheoliad 6 sy’n mewnosod rheoliad 12B newydd yn Rheoliadau 2012).

Rhiant-Ddeddf: Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990

Fe’u gwnaed ar: 5 Ebrill 2017

Fe'u gosodwyd ar:11 Ebrill 2017

Yn dod i rym ar: 5 Mai 2017

SL(5)092 – Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”).

Mae’r prif newidiadau fel a ganlyn—

(1)  diwygiadau i’r weithdrefn mewn perthynas â cheisiadau a gyfeirir at Weinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 20 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (“DCSP”), gan gynnwys darpariaeth i geisydd gyflwyno datganiad achos llawn o fewn cyfnod amser penodedig os yw’r ceisydd yn dewis gwneud hynny (rheoliad 4 sy’n rhoi rheoliad 12 newydd yn lle’r un presennol yn Rheoliadau 2015);

(2)  diwygiadau i’r weithdrefn mewn perthynas ag apelau o dan adran 21 o DCSP, i’w gwneud yn ofynnol—

(a)    i ddatganiad achos llawn fynd gyda’r hysbysiad o apêl; a

(b)    i’r apelydd anfon copi o’r datganiad achos llawn i’r awdurdod sylweddau peryglus (rheoliad 5 sy’n diwygio rheoliad 13 oReoliadau 2015);

(3)  darpariaeth o dan adran 21(3E) a (3F) o DCSP (a fewnosodwyd gan adran 47(4) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015) i—

(a)    rhagnodi amgylchiad o dan adran 21(3E) pan ganiateir amrywio cais unwaith i’r hysbysiad o apêl gael ei gyflwyno; a

(b)    darparu bod cais sy’n cael ei amrywio yn y fath fodd yn ddarostyngedig i unrhyw ymgynghoriad pellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol (rheoliad 6 sy’n mewnosod rheoliad 13A yn Rheoliadau 2015);

(4)  diwygiadau i’r weithdrefn ar gyfer apelio yn erbyn hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, i’w gwneud yn ofynnol—

(a)    i ddatganiad achos llawn gael ei anfon at Weinidogion Cymru o fewn cyfnod penodedig; a

(b)    i’r apelydd anfon copi o’r hysbysiad o apêl a’r datganiad achos llawn i’r awdurdod sylweddau peryglus (rheoliad 7 sy’n diwygio rheoliad 17 o Reoliadau 2015 a Rhan 1 o Atodlen 4 iddynt).

Rhiant-Ddeddf: Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992

Fe’u gwnaed ar: 5 Ebrill 2017

Fe'u gosodwyd ar:11 Ebrill 2017

Yn dod i rym ar: 5 Mai 2017


 

SL(5)093 – Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) (Diwygio) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999 (“Rheoliadau 1999”).

Mae rheoliad 2 o Reoliadau 1999 yn gwneud darpariaeth bod yn rhaid i Orchymyn Cadw Coed fod ar y ffurf a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hynny, neu ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg.

Mae erthygl 7 o’r ffurf ar Orchymyn Cadw Coed a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau 1999 (“y Gorchymyn”) yn cymhwyso darpariaethau Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, gan gynnwys adrannau 78 a 79 o’r Ddeddf honno, i ganiatadau o dan y Gorchymyn a cheisiadau am ganiatâd o’r fath, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a’r newidiadau a grybwyllir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn. Mae’r darpariaethau fel y’u haddaswyd a’u newidiwyd yn cael eu nodi yn Rhan 2 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaethau yn Rhan 1 ac yn dileu Rhan 2 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn. Effaith y diwygiadau yw ei gwneud yn ofynnol—

(a)    bod hysbysiad apêl yn dod gyda datganiad achos llawn ar ffurf datganiad ysgrifenedig sy’n cynnwys manylion llawn achos yr apelydd a chopïau o ddogfennau ategol; a

(b)    bod yr apelydd yn anfon, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gopi o’r hysbysiad apêl a chopi o’r datganiad achos llawn i’r awdurdod a wnaeth y gorchymyn cadw coed.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

Fe’u gwnaed ar: 5 Ebrill 2017

Fe'u gosodwyd ar:11 Ebrill 2017

Yn dod i rym ar: 5 Mai 2017


 

SL(5)094 – Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) (Diwygio) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 (“Rheoliadau 1992”).

Maent yn diwygio’r darpariaethau yn rheoliad 15 a Rhannau 3 i 5 o Atodlen 4. Mae’r darpariaethau hynny yn Rheoliadau 1992 yn cymhwyso adrannau 78 a 79 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“y Ddeddf Gynllunio”), fel y’u haddaswyd, i apelau mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd datganedig a phan gyflwynir hysbysiad peidio â pharhau o dan reoliad 8 o Reoliadau 1992.

Effaith y diwygiadau yw ei gwneud yn ofynnol—

(a)    i ddatganiad achos llawn ddod gyda hysbysiad apêl, sy’n cynnwys manylion llawn achos yr apelydd a chopïau o ddogfennau ategol yn achos apelau—

(i)     yn erbyn rhoi caniatâd datganedig sy’n cael ei roi yn ddarostyngedig i amodau;

(ii)    pan fo awdurdod cynllunio lleol wedi methu â phenderfynu ar gais am ganiatâd datganedig; a

(iii)   mewn perthynas â hysbysiad peidio â pharhau; a

(b)    i’r apelydd gyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gopi o’r hysbysiad apêl ac, yn achos yr apelau a grybwyllir ym mharagraff (a) uchod, i hefyd gyflwyno copi o’r datganiad achos llawn.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn dileu Rhan 4 o Atodlen 4 a oedd yn nodi adrannau 78 a 79 o’r Ddeddf Gynllunio fel y’u haddaswyd gan Reoliadau 1992 mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd datganedig.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

Fe’u gwnaed ar: 5 Ebrill 2017

Fe'u gosodwyd ar:11 Ebrill 2017

Yn dod i rym ar: 5 Mai 2017

SL(5)095 – Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli, gyda rhai newidiadau, Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”).

Y prif newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yw—

(1)  diwygir yr wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn nodyn esboniadol i fynd gyda phob hysbysiad gorfodi a gyflwynir gan awdurdod cynllunio lleol o dan adran 172(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“y Ddeddf Gynllunio”) yng ngoleuni’r newidiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a) a (b) (rheoliad 7);

(2)  mewn perthynas ag apelau i Weinidogion Cymru o dan adran 174(3) o’r Ddeddf Gynllunio neu adran 39(2) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (“y Ddeddf Adeiladau Rhestredig”)—

(a)    rhaid i’r apelydd ddarparu datganiad achos llawn;

(b)    mae’r amser a ragnodir o dan adran 174(4) o’r Ddeddf Gynllunio ac adran 39(4) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig ar gyfer cyflwyno datganiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru wedi ei ddiwygio;

(c)    rhaid i’r apelydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, anfon copi o’r hysbysiad o apêl a datganiad achos llawn i’r awdurdod cynllunio lleol (rheoliad 8);

(3)  mewn perthynas ag apelau o dan adran 208(2) o’r Ddeddf Gynllunio, rhaid cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o apêl yn nodi’r rhesymau dros apelio ac yn datgan y ffeithiau y mae’r apêl yn seiliedig arnynt gyda datganiad achos llawn (rheoliad 9);

(4)  gwneir darpariaeth mewn perthynas â’r camau i’w cymryd mewn cysylltiad â dwyn apêl gerbron Gweinidogion Cymru o dan adran 217 o’r Ddeddf Gynllunio (rheoliad 10). Yn fras, mae’r camau i’w cymryd yr un fath ag mewn perthynas ag apêl o dan adran 174(3) o’r Ddeddf Gynllunio neu adran 39(2) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

Fe’u gwnaed ar: 5 Ebrill 2017

Fe'u gosodwyd ar:11 Ebrill 2017

Yn dod i rym ar: 5 Mai 2017

SL(5)096 – Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn sefydlu gweithdrefn newydd ar gyfer ceisiadau atgyfeiriedig ac apelau yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer y weithdrefn mewn perthynas â:

—  ceisiadau ar gyfer caniatâd cynllunio, caniatâd adeilad rhestredig, caniatâd ardal gadwraeth a chaniatâd sylweddau peryglus a atgyfeirir at Weinidogion Cymru i’w penderfynu (“ceisiadau atgyfeiriedig”).

—  apelau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â chaniatâd cynllunio, caniatâd adeilad rhestredig, caniatâd ardal gadwraeth, caniatâd sylweddau peryglus, caniatâd i arddangos hysbyseb, tystysgrifau o gyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol neu arfaethedig, a chaniatadau o dan orchmynion cadw coed.

—  apelau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â hysbysiadau gorfodi, hysbysiadau gorfodi adeiladau rhestredig, hysbysiadau gorfodi ardal gadwraeth, hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, hysbysiadau peidio â pharhau i arddangos hysbyseb, hysbysiadau ailblannu coed a hysbysiadau ynghylch cynnal tir (“apelau gorfodi”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn byrhau amserlenni’r broses apêl. Mae’r prif newidiadau fel a ganlyn:

—  mae’r offerynnau statudol a wnaed ar yr un pryd â’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r apelydd gyflwyno datganiad achos llawn gyda hysbysiad o apêl. Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu bod yn rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gyflwyno datganiad achos llawn mewn perthynas ag apelau gorfodi, a chaiff ddewis gwneud hynny mewn perthynas ag apelau eraill. Rhaid i ddatganiad achos llawn yr awdurdod cynllunio lleol ddod i law Gweinidogion Cymru o fewn 4 wythnos i hysbysiad gan Weinidogion Cymru ynghylch cael apêl.

—  rhaid i ddyddiad y gwrandawiad fod yn ddim hwyrach na 10 wythnos ar ôl yr hysbysiad gan Weinidogion Cymru ynghylch cael apêl, a rhaid i ddyddiad yr ymchwiliad fod yn ddim hwyrach na 18 wythnos ar ôl yr hysbysiad hwnnw. Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hynny’n anymarferol, rhaid i ddyddiad y gwrandawiad neu’r ymchwiliad fod y dyddiad cynharaf y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymarferol.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer ymdrin â cheisiadau atgyfeiriedig ac apelau i Weinidogion Cymru drwy gyfuniad o weithdrefnau, yn hytrach na thrwy sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiadau neu ymchwiliadau yn unig, pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hynny’n briodol. Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r weithdrefn ar gyfer ystyried achosion o fewn 6 wythnos i’r hysbysiad gan Weinidogion Cymru ynghylch cael apêl.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

Fe’u gwnaed ar: 5 Ebrill 2017

Fe'u gosodwyd ar:11 Ebrill 2017

Yn dod i rym ar: 5 Mai 2017

SL(5)097 – Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (“Gorchymyn 2012”).

Mae’r prif newidiadau fel a ganlyn—

(1)  diwygiadau i’r weithdrefn mewn perthynas â cheisiadau a atgyfeirir at Weinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 77 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”), gan gynnwys darpariaeth i geisydd gyflwyno datganiad achos llawn o fewn cyfnod amser penodedig os yw’r ceisydd yn dewis gwneud hynny (erthygl 4 sy’n rhoi erthygl 13 newydd yn lle’r un bresennol yng Ngorchymyn 2012).

(2)  diwygiadau i’r weithdrefn mewn perthynas ag apelau o dan adran 78 o Ddeddf 1990 i’w gwneud yn ofynnol—

(a)    i ddatganiad achos llawn fynd gyda’r hysbysiad o apêl; a

(b)    i’r apelydd anfon copi o’r datganiad achos llawn i’r awdurdod cynllunio lleol (erthygl 5, sy’n diwygio erthygl 26 o Orchymyn 2012).

(3)  darpariaeth bod y weithdrefn apelio o dan adran 195 o Ddeddf 1990 (apelau yn erbyn gwrthod cais am dystysgrif cyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol neu arfaethedig neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais o’r fath)—

(a)    yn ei gwneud yn ofynnol i ddatganiad achos llawn fynd gyda’r hysbysiad o apêl;

(b)    yn ei gwneud yn ofynnol i’r apelydd anfon copi o’r datganiad achos llawn i’r awdurdod cynllunio lleol; ac

(c)    yn darparu bod yn rhaid i geisydd sy’n dymuno apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn gwrthod cais am dystysgrif cyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais o’r fath wneud hynny o fewn chwe mis o ddyddiad yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad sy’n arwain at yr apêl (erthygl 6 sy’n mewnosod erthygl 26B yng Ngorchymyn 2012).

(4)  darpariaeth o dan adran 78(4BA) a (4BB) ac adran 195(1DA) ac (1DB) o Ddeddf 1990 (a fewnosodwyd gan adran 47(1) a (2) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015) i—

(a)    rhagnodi amgylchiad o dan adrannau 78(4BA) a 195(1DA) pan ganiateir amrywio cais unwaith i’r hysbysiad o apêl gael ei gyflwyno; a

(b)    darparu bod cais sy’n cael ei amrywio yn y fath fodd yn destun unrhyw ymgynghori pellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol (erthygl 7 sy’n mewnosod erthygl 26C yng Ngorchymyn2012).

Rhiant-Ddeddf: Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

Fe’i gwnaed ar: 5 Ebrill 2017

Fe'i gosodwyd ar:11 Ebrill 2017

Yn dod i rym ar: 5 Mai 2017

SL(5)099 – Rheoliadau Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cywiro, Tir Comin Heb ei Gofrestru neu Dir Comin a Gamgofrestrwyd) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r weithdrefn ar gyfer cyflwyno ceisiadau a chynigion o dan adran 19 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, ac Atodlen 2 iddi.

Maent yn cynnwys darpariaethau ynghylch:

(a)    gwneud, rheoli a dyfarnu ceisiadau a chynigion i ddiwygio’r cofrestrau;

(b)    ffioedd y caniateir eu codi mewn perthynas â chais;

(c)    dyletswyddau’r awdurdod cofrestru mewn cysylltiad â chyhoeddi ceisiadau a chynigion;

(d)    cynnal ymchwiliadau cyhoeddus a gwrandawiadau a’r achosion pan fo’n rhaid cyfeirio ceisiadau a chynigion at berson penodedig er mwyn eu dyfarnu (mae’r rhain yn cynnwys achosion pan fo gan yr awdurdod cofrestru fuddiant yng nghanlyniad y cais neu’r cynnig); ac

(e)    dyfarndalu costau mewn perthynas â cheisiadau penodol.

Maent yn galluogi Gweinidogion Cymru i benodi personau i fod yn gymwys i weinyddu a dyfarnu ceisiadau a wneir i awdurdod cofrestru tir comin, neu gynigion a wneir gan awdurdod o’r fath, er mwyn diwygio ei gofrestrau.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Tiroedd Comin 2006

Fe’u gwnaed ar: 9 Ebrill 2017

Fe'u gosodwyd ar:13 Ebrill 2017

Yn dod i rym ar: 5 Mai 2017


 

SL(5)101 – Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch asesu effaith prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd. Maent hefyd yn gweithredu Cyfarwyddeb 1992/43/EEC y Cyngor ynghylch gwarchod cynefinoedd naturiol a phlanhigion ac anifeiliaid gwyllt cyn belled ag y mae’r prosiectau hynny’n effeithio ar y safleoedd y mae’r Gyfarwyddeb honno’n eu gwarchod.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diddymu Rheoliadau Asesu’r Effaith Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007 (SI 2007/2933) ac mae rheoliad 36 yn gwneud darpariaeth dros dro ynghylch gwasanaethau hysbysiadau atal ac adfer o dan y rheoliadau a ddiddymir.

Rhiant-Ddeddf: Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972

Fe’u gwnaed ar: 20 Ebrill 2017

Fe'u gosodwyd ar:24 Ebrill 2017

Yn dod i rym ar: 16 Mai 2017

SL(5)103 – Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 (“Rheoliadau 2016”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2016/317, drwy ddiwygio’r gofynion ar gyfer y label swyddogol ar datws hadyd sylfaenol ac ardystiedig yn Rheoliadau 2016.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964

Fe’u gwnaed ar: 21 Ebrill 2017

Fe'u gosodwyd ar:26 Ebrill 2017

Yn dod i rym ar: 18 Mai 2017